Rhif y ddeiseb: P-06-1232

Teitl y ddeiseb: Rhoi terfyn ar sefydlu unedau dofednod dwys trwy ddeddfu a chyflwyno moratoriwm hyd nes y gellir cyflawni hyn

Geiriad y ddeiseb:

Mae llawer o unedau ffermio dofednod dwys yng Nghymru. Powys yw un o’r mannau â’r nifer fwyaf o’r unedau hynny. Mae 147 o geisiadau unedau dofednod dwys wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Sir Powys. Mae’r unedau hyn yn dod â llawer o broblemau gyda nhw gan gynnwys llygredd afonydd a thir, arogl, amonia, traffig, sŵn a golau bob awr o’r dydd. I lawer o bobl, mae'r arfer o ffermio dofednod dwys yn greulon ac yn ddiangen.

Er i lawer o bentrefi gael eu difetha gan yr unedau hyn, nid oes unrhyw beth yn cael ei wneud i'w hatal. Mae angen i’n gwleidyddion weithredu.

Pentref bach arall ym Mhowys yw'r diweddaraf mewn rhestr hir i gael ei fygwth gan adeiladu uned ddofednod ddwys. Ardal wledig yw hon, ac mae trigolion y pentref ac ymwelwyr yn cerdded ar y ffyrdd yn rheolaidd. Mae'r dirwedd yn ysblennydd, nid oes llygredd golau ac mae'r distawrwydd yn fyddarol, sy’n hyfryd. Mae afon Cain yn llifo drwy'r pentref yn agos at y safle ac yn llifo i afon Hafren.

Er i lawer o bentrefi gael eu difetha gan yr unedau hyn, nid oes unrhyw beth yn cael ei wneud i'w hatal. Mae angen i’n gwleidyddion weithredu. Felly, mae'r ddeiseb hon yn ceisio cymell y gwleidyddion i ddeddfu; maent wedi addo gwneud hynny ers blynyddoedd; maent yn derbyn bod hwn yn fater difrifol ond nid oes deddfwriaeth o hyd.

Addawyd TAN (Nodyn Cyngor Technegol) ynghylch unedau dofednod dwys yn 2019. Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Amaeth, wedi dweud bod yn rhaid gwneud rhywbeth, yn enwedig o ran yr unedau llai. Ond rydym yn dal i aros.

 


1.        Cefndir

Deiseb flaenorol

Mae’r ddeiseb hon yn debyg i ddeiseb flaenorol a drafodwyd gan y Pwyllgor a oedd yn eich rhagflaenu: P-05-815 Rheoli’r Diwydiant Dofednod Dwys Sy’n Ehangu’n Gyflym yng Nghymru. Fe wnaeth y Pwyllgor gau’r ddeiseb honno ar 27 Gorffennaf 2020 gan ddod i’r casgliad a ganlyn:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth bellach, a nododd fod y gwaith yn mynd rhagddo i adolygu – a phan fydd cyfleoedd yn cael eu nodi, cryfhau – gofynion cynllunio sy'n ymwneud ag amaethyddiaeth ddwys. Cytunodd y Pwyllgor i nodi'r pryderon difrifol a fynegwyd gan y deisebwyr trwy gydol y broses hon ond daeth i'r casgliad – yn wyneb yr ymatebion a gafwyd gan y Gweinidog, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r deisebwyr – mai prin iawn yw’r hyn y gallai ei gyflawni ymhellach ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac ysgrifennu at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn a all barhau i fonitro datblygiadau fel rhan o'u gwaith ynghylch defnydd tir a bioamrywiaeth.

Rheoleiddio unedau dofednod dwys

Mae dwy brif agwedd i reoleiddio unedau dofednod newydd:

§    y system gynllunio, y mae’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn gyfrifol amdani;

§    y broses drwyddedu amgylcheddol, y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol amdani;

Yn fras, mae angen caniatâd cynllunio ar unedau newydd ac Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn ogystal lle maent yn uwch na throthwyon penodol. Mae hefyd angen trwydded amgylcheddol uwchben trothwy penodol.

Ceir rhagor o fanylion am y broses caniatâd cynllunio a thrwyddedu amgylcheddol ar gyfer unedau dofednod ym mhapur briffio Ymchwil y Senedd a ddarparwyd i'r pwyllgor a oedd yn eich rhagflaenu.

Yn 2018, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at Awdurdodau Cynllunio Lleol yn eu hatgoffa o’r “angen i ystyried yn llawn effeithiau datblygiadau amaethyddol dwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio”. Roedd y llythyr yn nodi:

§    Mae angen caniatâd cynllunio fel arfer ar unedau amaethyddol mawr dwys, a ble yn briodol, awgrymir bod ACLlau yn sefydlu polisïau priodol o fewn Cynlluniau Datblygu Lleol er mwyn hwyluso'r broses o ystyried cynaliadwyedd y math yma o ddatblygiad.

§    Gall unedau amaethyddol dwys, yn benodol ffermydd moch a dofednod, gael effaith ar gynefinoedd sensitif yn ogystal â'r boblogaeth leol. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod llygryddion yn cael eu rhyddhau, gan gynnwys: amonia; maethynnau o dail, sbwriel a slyri; llygryddion o elifion; llwch; arogl; a sŵn.

§    Mae angen bod yn arbennig o ofalus wrth ystyried datblygiadau a fyddai'n golygu bod unedau da byw yn agos iawn at ddefnydd sensitif o dir megis cartrefi, ysgolion, ysbytai, datblygiadau swyddfeydd neu ardaloedd sy'n sensitif yn amgylcheddol.

§    Yr hyn sy'n bwysig yw, er y byddai'n bosibl y byddai datblygiad unigol ar gyfer da byw dwys yn dderbyniol, dylid ystyried effeithiau cronnol o ganlyniad i ddatblygiadau tebyg gerllaw hefyd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer asesiadau amonia ar gyfer datblygiadau sydd angen trwydded neu ganiatâd cynllunio.

Mae unedau dofednod hefyd yn ddarostyngedig i reoleiddio sy'n ymwneud â risg clefydau i iechyd anifeiliaid a phobl, ac o ran lles anifeiliaid.

2.     Camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru

Sefydlodd Llywodraeth Cymru’r Gweithgor Amaethyddiaeth Ddwys Cynllunio Gwlad a Thref yn 2019. Ar y dechrau, roedd y grŵp yn cynnwys swyddogion cynllunio o awdurdodau cynllunio lleol, undebau ffermio, grwpiau amgylcheddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a thimau polisi Llywodraeth Cymru.

I ddechrau, roedd y grŵp yn canolbwyntio ar ddatblygu canllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau amaethyddiaeth ddwys ar ffurf Nodyn Cyngor Technegol (TAN) newydd.

Ysgrifennodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, atoch am y ddeiseb hon ar 13 Gorffennaf 2022. Mae llythyr y Gweinidog yn egluro bod y pandemig wedi torri ar draws gwaith y gweithgor.

Mae cyhoeddiad dilynol Cyfoeth Naturiol Cymru am berfformiad Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) afonydd yn erbyn targedau ffosfforws llymach yn golygu bod y gwaith ar yr effeithiau cynllunio amaethyddol wedi cael ei ail-ffocysu i ddatrys y broblem ffosfforws uniongyrchol. Mae’r mater yn ymwneud â ffosfforws ar hyn o bryd yn atal nifer fawr o gartrefi newydd, gan gynnwys tai fforddiadwy, rhag dod ymlaen.

Mae dwy afon sy’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ym Mhowys: yr afonydd Gwy ac Wysg.

Fodd bynnag, mae llythyr y Gweinidog yn ymrwymo i ddatblygu’r Nodyn Cyngor Technegol ar ddatblygu amaethyddol gyda’r bwriad o gyhoeddi drafft ar gyfer ymgynghoriad yn yr hydref. Mae’r Gweinidog hefyd yn dweud nad yw hi wedi diystyru atal datblygiadau dofednod newydd ond mae’n pwysleisio y bydd hi’n cael ei harwain gan y dystiolaeth.

Cynhadledd Llygredd Afonydd

Cynullodd y Prif Weinidog gynhadledd i drafod llygredd ffosfforws yn afonydd Cymru ar 18 Gorffennaf, sef diwrnod agoriadol Sioe Frenhinol Cymru.

Daeth y gynhadledd ag uwch gynrychiolwyr o reoleiddwyr, cwmnïau dŵr, datblygwyr, llywodraeth leol, undebau ffermio, y byd academaidd a chyrff amgylcheddol ynghyd i drafod datblygu dull strategol a chydgysylltiedig o wella’r sefyllfa. Cytunwyd ar wyth o gamau gweithredu:

1.              Rhagor o gyllid ar gyfer Byrddau Rheoli Maethynnau (£415k ar gyfer 2022-23 a swm heb ei nodi ar gyfer 2023-24 a 2024-25) ac adolygiad o drefniadau llywodraethu’r Byrddau (gweler cam 8 isod).

2.            Datblygu dull rheoleiddio i alluogi atebion sy'n seiliedig ar natur i liniaru ar y llwyth ffosfforws ac i leihau'r effaith ar yr amgylchedd.

3.            Gweithredu ymyriadau tymor byr, gan ddefnyddio cymorth ariannol gan ddatblygwyr, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

4.            Datblygu cyfrifiannell maethynnau Cymru gyfan i helpu penderfyniadau cynllunio.

5.            Cytuno ar ‘ddewislen’ o gamau ac ymyriadau lliniarol posibl, i gynorthwyo penderfyniadau byrddau rheoli maethynnau ar gyfres o fesurau i leihau llygredd.

6.            Archwilio’r ffordd orau o fwrw ymlaen â dull o roi caniatâd ar gyfer dalgylchoedd, i ehangu'r ystod o fesurau lliniaru sydd ar gael i leihau llygredd yn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

7.             Asesu'r potensial ar gyfer gwrthbwyso maethynnau.

8.            Map trywydd hirdymor wedi’i gefnogi gan gynllun gweithredu ar gyfer afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru, i’w ddatblygu yn yr hydref. Bydd canlyniad yr adolygiad o drefniadau llywodraethu’r Bwrdd Rheoli Maethynnau yn cael ei gynnwys yn y cynllun gweithredu.

Cyhoeddwyd pecyn gwybodaeth dechnegol a thystiolaeth i gyd-fynd â’r gynhadledd.

Nod y Llywodraeth Cymru yw cynnull y gynhadledd eto ar ddechrau 2023.

3.     Camau gweithredu gan Senedd Cymru

Fel y nodwyd uchod, trafododd y pwyllgor a oedd yn eich rhagflaenu ddeiseb debyg yn y Bumed Senedd.

Mae dau o Bwyllgorau’r Senedd bresennol wedi ystyried agweddau ar lygredd dŵr croyw yn ddiweddar:

§    Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: ymchwiliad i reoliadau llygredd amaethyddol;

§    Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith y Senedd: ymchwiliad i ansawdd dŵr a gollyngiadau carthion.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.